P-04-414
: Swyddi Cymreig
Geiriad y
ddeiseb
Rydym
ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol
Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gymell cyflogwyr sy’n
adleoli i Gymru, neu’n agor cyfleusterau a marchnadoedd yma,
i recriwtio staff lleol a’u hyfforddi pan fo angen gwneud
hynny.
Gwybodaeth
ategol:
Mae
enghreifftiau o bob cwr o Gymru o swyddi newydd yn cael eu
cymryd gan weithluoedd o’r tu allan i Gymru - gweithluoedd
cyfan mewn rhai achosion. Gallai cytuno ar ddiffiniad o
‘weithiwr allweddol’ helpu i osgoi sefyllfaoedd fel
hyn. Dylid ei gyfyngu i swyddi arbenigol pan nad yw’r sgiliau
neu’r cymwysterau gofynnol ar gael yn lleol a phan na allai
pobl leol eu hennill yn ystod cyfnod byr o hyfforddiant. Fel arall,
mae’n gamarweiniol, ar y gorau, bod gwleidyddion, y cyfryngau
ac eraill yn cyhoeddi ‘swyddi newydd’, pan fo pobl
Cymru yn cael eu hamddifadu o’r swyddi hynny, i bob
pwrpas.
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 2
Hydref 2012
Prif
ddeisebydd: Royston
Jones
Nifer y
llofnodion:65